Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 11 Mawrth 2015

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(253)v2

 

<AI1>

1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (60 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2 Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

4 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i ailgylchu yng Nghymru (60 munud)

NDM5716 Alun Ffred Jones (Arfon)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i Ailgylchu, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2014.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2015.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Ymateb Llywodraeth Cymru

</AI4>

<AI5>

5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

NDM5717 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi diffyg uchelgais Llywodraeth Cymru o ran gwella'r amodau ar gyfer twf economaidd yng Nghymru;

 

2. Yn cydnabod cyfraniad sylweddol busnesau gwledig i economi Cymru, ond yn nodi'r potensial ar gyfer mwy o dwf; a

 

3. Yn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau ledled Cymru drwy: 

 

a) gwella isadeiledd, cysylltedd a sgiliau ledled Cymru;

 

b) gwella rôl awdurdodau lleol o ran eu cyfraniad at dwf economaidd;

 

c) gwella mynediad at gyllid i bob busnes yng Nghymru; a

 

d) cynyddu'r gyfradd eithrio ar gyfer pob eiddo busnes sydd â gwerth ardrethol o lai na £12,000.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Yn is-bwynt 3c), ar ôl 'yng Nghymru', mewnosod 'drwy greu Banc Datblygu Cymru i weithredu fel 'siop un stop 'ar gyfer cyngor busnes a mynediad at gyllid a man galw cyntaf ar gyfer busnesau'

 

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu isbwynt 3d) a rhoi yn ei le:

 

galluogi cadw trethi busnes yn lleol er mwyn cymell twf economaidd lleol.

 

[os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys ar ddiwedd isbwynt 3d):

 

', ac ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i fod yn gymwys i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai.'

 

Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu isbwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

 

cefnogi trefi marchnad Cymru, canolfannau traddodiadol ein cymunedau, a'r seilwaith sylfaenol o'u cwmpas.

 

Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu isbwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

 

cynyddu'r gyfran o gontractau caffael y sector cyhoeddus sy'n mynd i fusnesau Cymreig.

</AI5>

<AI6>

6 Dadl Plaid Cymru (60 munud)

NDM5718 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi Adroddiad Synthesis y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ar gyfer 2014 sy'n datgan:

 

a) bod dylanwad dynol ar y system hinsawdd yn glir, ac mai'r allyriadau anthropogenig diweddar o nwyon tŷ gwydr yw'r rhai uchaf mewn hanes;

 

b) bod yr awyrgylch a'r môr wedi cynhesu, bod cyfanswm yr eira a'r rhew wedi lleihau, a lefel y môr wedi codi; a

 

c) y gall gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau dros y degawdau nesaf leihau risgiau i'r hinsawdd yn yr 21ain ganrif a thu hwnt, cynyddu rhagolygon ar gyfer addasu effeithiol, lleihau costau a heriau lliniaru yn y tymor hwy, a chyfrannu at lwybrau datblygu cynaliadwy sy'n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targedau statudol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.

 

Mae Adroddiad Synthesis yr IPCC ar gyfer 2014 ar gael yn:  http://www.ipcc.ch/pdf/assessment-report/ar5/syr/SYR_AR5_SPMcorr2.pdf (Saesneg yn unig)

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi'r canlynol yn ei le:

 

Yn edrych ymlaen at Fil yr Amgylchedd a fydd yn gyfrwng i Lywodraeth Cymru ddeddfu ar gyfer targedau statudol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

 

[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ym mhwynt 2, ar ôl 'targedau' mewnosoder 'yn y Bil amgylchedd arfaethedig'.

 

Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:

 

'ac yn gwneud datganiadau rheolaidd i'r Cyfarfod Llawn ar y targedau hynny'

</AI6>

<AI7>

7 Cyfnod pleidleisio 

</AI7>

<AI8>

8 Dadl Fer (30 munud)

NDM5714 Russell George (Sir Drefaldwyn)

 

Gweithgareddau'r Grid Cenedlaethol yng nghanolbarth Cymru.

 

Atal Sir Drefaldwyn rhag cael ei diwydiannu a'i dinistrio.

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2015

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>